Comisiwn y Cynulliad

 

Lleoliad:

Presiding Officer’s office, 4th floor - Tŷ Hywel

 

Dyddiad:

Dydd Iau, 8 Mai 2014

 

Amser:

10.30 - 12.00

 

 

 

Cofnodion:  AC(4)2014(6)

 

 

 

Yn bresennol:

 

Y Fonesig Rosemary Butler AC (Cadeirydd)

Peter Black AC

Sandy Mewies AC

Rhodri Glyn Thomas AC

 

 

 

 

 

Swyddogion yn bresennol:

 

Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog)

Dave Tosh, Cyfarwyddwr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (Swyddog)

Nicola Callow, Pennaeth Cyllid (Swyddog)

Craig Stephenson, Prif Gynghorydd y Llywydd (Swyddog)

Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn (Swyddog)

 

 

 

 

 

 

Eraill yn bresennol:

 

David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd

Mair Barnes, Cynghorwr Annibynnol

 

 

 

 

<AI1>

1    Cyflwyniad y Cadeirydd

 

</AI1>

<AI2>

1.1         Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

 

Cafwyd ymddiheuriad gan Angela Burns AC.

 

</AI2>

<AI3>

1.2         Datganiadau o fuddiant

 

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

</AI3>

<AI4>

1.3         Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

 

Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 26 Mawrth.

 

 

</AI4>

<AI5>

2    Strategaeth Cyllideb 2015-16

 

Cyllideb 2015-16 fydd y gyntaf yn dilyn cyfnod buddsoddi tair blynedd y Comisiwn. Mae’r Comisiynwyr eisoes wedi ymrwymo i reoli’r gyllideb yn unol â’r newidiadau yng nghyllideb bloc Cymru.

Cadarnhaodd y Comisiynwyr y byddai’r eitemau a ganlyn yn cael eu trin fel eitemau eithriadol a oedd y tu allan i reolaeth y Comisiwn:

-       cynnydd yng nghostau’r cyflogwr yn dilyn y broses o brisio Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, fel y trafodwyd gan y Comisiwn ym mis Chwefror;

-       arian ychwanegol yng ngoleuni penderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd Taliadau; a

-       gwariant yn ymwneud ag etholiadau.

Byddai’r Bwrdd Buddsoddi yn adolygu’r eitemau eithriadol, gan gynnwys sicrhau bod gwariant yn ymwneud ag etholiadau, a chostau, yn cael eu cynllunio a’u rheoli’n effeithiol. Byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei chynnwys am y wasgfa ar y gyllideb, am flaenoriaethau strategol ac am arbedion effeithlonrwydd a gyflawnwyd, yn benodol, drwy fuddsoddi sylweddol, fel yn achos y prosiect TGCh. Cytunwyd y byddai gwybodaeth am ffrydiau incwm hefyd yn cael ei chynnwys yn nogfen y gyllideb.

Diolchwyd i Angela Burns AC a Nicola Callow am eu gwaith hyd yma ar strategaeth y gyllideb.

Byddai’r Comisiynwyr yn trafod y gyllideb ddrafft eto ym mis Gorffennaf, cyn iddi gael ei gosod gerbron y Cynulliad i’w thrafod ym mis Medi 2014.  

 

 

</AI5>

<AI6>

3    Adroddiad ar berfformiad corfforaethol Ebrill 2013-Mawrth 2014

 

Mae’r Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol yn crynhoi perfformiad yn ôl Dangosyddion Perfformiad Allweddol y Comisiwn yn ystod 2013-14. 

Drwy gydol y flwyddyn, gwelwyd cynnydd yn y rhan fwyaf o feysydd. Nododd y Comisiynwyr fod y dangosyddion ar gyfer y rhaglen gwerth am arian, perfformiad cyllidebol, a strwythurau llywodraethu cryf wedi bod yn gyson gryf drwy gydol y flwyddyn. Prosiectau llwyddiannus eraill yn ystod y cyfnod adrodd diweddaraf (Ionawr - Mawrth 2014) oedd y prosiect trawsnewid TGCh a’r prosiect cyfieithu peirianyddol.

Byddai rhai dangosyddion yn cael eu haddasu ar gyfer y cyfnod adrodd nesaf, i sicrhau eu bod yn parhau’n berthnasol, a’u bod yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol at ddibenion monitro.

Caiff yr adroddiad ei rannu â Phwyllgor Cyllid y Cynulliad a’i gyhoeddi ar wefan y Comisiwn.

 

</AI6>

<AI7>

4    Adroddiad ar y Prif Bwyntiau Ionawr - Mawrth 2014

 

Trafodwyd yr Adroddiad ar y Prif Bwyntiau, rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2014, sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a phrosiectau allweddol sydd ar waith ers mis Rhagfyr 2013, ar gyfer gwneud cynnydd tuag at gyflawni nodau strategol y Comisiwn.

Roedd yr eitemau a ganlyn o ddiddordeb arbennig:

 - Roed gwaith aruthrol wedi’i wneud, ac yn parhau i gael ei wneud gan yr Aelodau, gan Bwyllgorau’r Cynulliad a thrwy waith swyddfa’r Cynulliad ym Mrwsel, i ddylanwadu, ac i godi proffil y Cynulliad ar lefel yr UE.

-       Bydd Cynhadledd Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, a gaiff ei chynnal yn y Cynulliad ym mis Mai, yn gyfle i gynulleidfa ryngwladol weld yr hyn y mae’r Cynulliad yn ei wneud i hybu ymgysylltiad democrataidd;

- Roedd gwaith diweddar a wnaed ar ystâd y Cynulliad wedi gwella’r amgylchedd ar gyfer ymwelwyr a phobl sy’n gweithio ar yr ystad, ynghyd â gwaith i wella’r trefniadau diogelwch.

Tynnodd y Comisiynwyr sylw hefyd at yr angen i barhau i gydweithio â’r Aelodau ym maes rheoli gwybodaeth, i sicrhau bod arweiniad a chyngor ar gael i bawb. Croesawyd y trefniadau a wnaed i ymweld â swyddfeydd yr Aelodau, gan fod gwerth mawr wedi bod yn sgîl ymweliadau tebyg yn y gorffennol.

Cadarnhaodd y Comisiynwyr fod yr Adroddiad ar y Prif Bwyntiau o werth iddynt, ac yn ehangach i Aelodau’r Cynulliad, y cyhoedd a staff, fel ffynhonnell gwybodaeth ddefnyddiol am y gwaith a wneir i gyflawni nodau strategol y Comisiwn. 

Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ar wefan y Comisiwn.

 

</AI7>

<AI8>

5    Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol 2013-14

 

Rôl Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw helpu’r Comisiwn a’r Prif Weithredwr i sicrhau bod gwasanaethau’r Cynulliad yn cael eu darparu i’r safonau uchaf o ran cywirdeb ac atebolrwydd wrth ddefnyddio arian cyhoeddus. Mae’r Pwyllgor yn cynghori’r Comisiwn a’r Prif Weithredwr, fel Swyddog Cyfrifyddu, ar eu cyfrifoldebau o ran polisïau a systemau cydnabyddiaeth ariannol, a’u cymeradwyo. Bydd y Pwyllgor yn ystyried argymhellion a wneir gan y Llywydd ynghylch perfformiad y Prif Weithredwr, a chan y Prif Weithredwr ynghylch Cyfarwyddwyr.

Nid oes ganddo bwerau gweithredol, ac mae’n ofynnol iddo wneud adroddiad blynyddol ffurfiol i’r Comisiwn ar ddiwedd y flwyddyn.

Helena Feltham yw Cadeirydd y Pwyllgor erbyn hyn, ac mae Eric Gregory a Keith Baldwin yn aelodau ohono, ac mae pob un ohonynt yn Gynghorwyr Annibynnol i’r Comisiwn. 

Nododd y Comisiynwyr argymhellion y Pwyllgor, yn benodol:

-       Roedd y Cyfarwyddwyr wedi perfformio i safon dderbyniol, sy’n caniatáu i hawliau cytundebol i godiadau cynyddrannol (sy’n gysylltiedig â pherfformiad boddhaol) gael eu gweithredu, lle nad yw’r unigolyn eisoes wedi cyrraedd y radd darged ar gyfer y band cyflog.

-       Roedd y Pwyllgor wedi ystyried y Strategaeth ar Gyflogau ar gyfer staff y Comisiwn, a lywiodd y setliad y cytunwyd arno gydag Undebau Llafur y Cynulliad ym mis Mawrth 2014. Byddai’r setliad newydd yn para o 1 Hydref 2013 tan 30 Medi 2016. Byddai’r Pwyllgor yn cynorthwyo i ddatblygu opsiynau ar gyfer strategaethau talu yn y dyfodol, yn barod ar gyfer eu hystyried yn 2016.

Nodwyd adroddiad y Pwyllgor yn ffurfiol. Roedd y Comisiynwyr am gofnodi eu diolch i Tony Morgan am gadeirio’r Pwyllgor blaenorol.

 

</AI8>

<AI9>

6    Y wybodaeth diweddaraf am y Gwasanaethau TGCh ar gyfer y dyfodol

 

Yn eu cyfarfod ar 26 Mawrth, roedd y Comisiynwyr wedi cytuno’n unfrydol i drosglwyddo’r cyfrifoldeb dros wasanaethau TGCh o Atos i Gomisiwn y Cynulliad ar 7 Ebrill 2014.

Cadarnhaodd Dave Tosh fod y trosglwyddo wedi digwydd ac wedi mynd rhagddo’n llyfn. Nid oedd problemau arwyddocaol wedi codi. Roedd staff yn y tîm TGCh yn gweithio i ddatrys problemau a oedd wedi cronni ond nid oedd dim ohonynt wedi effeithio ar y rhai a oedd yn defnyddio’r gwasanaethau. Cytunodd y Comisiynwyr fod y trosglwyddo wedi mynd rhagddo’n ddidrafferth, ac nad oeddent wedi cael dim adborth negyddol gan Aelodau na’u staff.

Roedd cyflogeion TGCh newydd wedi dechrau yn eu swyddi, ac yn ymgyfarwyddo ag amgylchedd gwaith y Cynulliad ac yn datblygu eu harbenigedd ar hyn o bryd. Roedd y Comisiynwyr yn cytuno ei bod yn hanfodol bod cyflogeion newydd yn deall gwaith yr Aelodau yn drylwyr. Dylid gwneud ymdrechion i’w cynorthwyo i ddatblygu’r wybodaeth hon yn gyflym i alluogi iddynt ymateb i ymholiadau a phroblemau mewn modd priodol a phrydlon.

Llongyfarchodd yr holl Gomisiynwyr aelodau’r tîm TGCh ar eu gwaith caled yn cwblhau’n llwyddiannus y prosiect cymhleth hwn, a fydd yn gwella’r gwasanaeth i’r Aelodau, yn sicrhau arbedion ariannol ac yn galluogi’r Cynulliad i arwain y ffordd o ran defnyddio TGCh.

 

</AI9>

<AI10>

7    Y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg  - y wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Ebrill

 

Rhoddodd Claire Clancy grynodeb o gyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Comisiwn y Cynulliad a gynhaliwyd ar 7 Ebrill,  gan gynnwys yr eitemau a ganlyn: 

Roedd aelodau’r Pwyllgor yn fodlon iawn ar y gwaith archwilio mewnol a’r datblygiadau a welwyd ers penodi Gareth Watts yn Bennaeth Archwilio Mewnol; Gwnaethpwyd y protocol cydweithio newydd â Swyddfa Archwilio Cymru yn derfynol, a thrafodwyd yr adroddiadau archwilio a gwblhawyd, sy’n cynnwys Gwelliant Corfforaethol, Dadansoddi Data ac adroddiad adolygu parodrwydd busnes terfynol ar gyfer y prosiect TGCh ar gyfer y dyfodol. 

Bu’r Pwyllgor yn adolygu’r Gofrestr Risg Gorfforaethol, a thrafododd yn fanwl y risgiau sydd ynghlwm wrth y prosiect TGCh ar gyfer y Dyfodol, a’r camau y mae angen eu cymryd i’w lliniaru.

Byddai Cadeirydd y Pwyllgor, Eric Gregory, yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor i’r Comisiwn ym mis Gorffennaf.

 

 

</AI10>

<AI11>

8    Papur i’w nodi – Cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a gynhaliwyd ar 7 Ebrill (heb ei gymeradwyo eto)

 

Nodwyd cofnodion y cyfarfod yn ffurfiol.

 

</AI11>

<AI12>

9    Unrhyw fater arall

 

Roedd y Llywydd wedi cynnal cyfarfod tairochrog â’r swyddogion cyfatebol yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon a Thŷ’r Cyffredin.

Rhoddodd Dave Tosh grynodeb o’i waith ar gyfer y Cenhedloedd Unedig yn ddiweddar, pan fu’n cynghori llywodraeth Fiji yngylch paratoi i sefydlu Senedd.

Penodwyd Craig Stephenson yn Gyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn.

 

Yr Ysgrifenyddiaeth

Mai 2014

 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>